Ein Meithrinfa
Rydyn ni’n deall yr emosiynau mae rhieni’n eu teimlo wrth adael eu plantos bach mewn lleoliad gofal plant. Rydyn ni yma i’ch cefnogi chi a’ch teulu wrth i chi wneud penderfyniadau a sicrhau bod dechrau gyda meithrinfa’n brofiad braf. Dull o weithredu gyda’r teulu yn y canol sydd gyda ni, ac rydyn ni’n hyrwyddo partneriaeth agored gyda rhieni, gan annog pawb i rannu eu teimladau, eu diddordebau a’u hamser er mwyn sicrhau’r deilliannau gorau i’ch plant, ac i chi deimlo’ch bod yn cael eich cynnwys yn antur eich plentyn yn y feithrinfa.
Ein Teulu Hapus
Caiff plant awyrgylch symbylus ond digynnwrf, a gofal gan unigolion arbennig iawn sy’n llwyr gefnogi ein hethos.
Ein nod yw recriwtio’r staff gorau sydd ar gael; mae cymwysterau a phrofiad yn ddiau o’r pwys pennaf. Fodd bynnag, mae personoliaeth a rhinweddau personol llawn mor uchel ar ein hagenda wrth wneud ein penderfyniadau.
Er mwyn cynnal lefel uchel o ofal plant safonol, caiff perfformiad ei fonitro’n gyson ac mae’r holl staff yn ymgymryd â datblygiad proffesiynol a hyfforddiant gorfodol drwy gydol y flwyddyn. Ar ben hynny, mae cyfarfodydd tîm cyson yn hyrwyddo ymdeimlad o ysbryd tîm ac yn annog y staff i ymfalchïo yn y rôl sydd ganddynt yn natblygiad eich plentyn.
Mae pob aelod o’n teulu’n frwd dros ben am ddarparu gofal plant o’r radd flaenaf, ac mae eu hymrwymiad a’u hegni’n sicrhau bod y plant yn ein gofal yn cael profiad dysgu rhagorol. Mae’n fraint cael bod yn rhan o daith eich plentyn bach.